Cyfarwyddiadau

I chwilio am derm ar y wefan, teipiwch y term yn y blwch chwilio a chlicio ar y botwm ‘Chwilio’. Bydd iaith y term chwilio’n cael ei hadnabod yn awtomatig.

Bydd y canlyniadau sy’n cyfateb yn union i’ch chwiliad yn cael eu dangos ar frig y dudalen, gyda’r canlyniadau sy’n cynnwys y term chwilio fel rhan o’r term yn cael eu dangos oddi tanynt.

Mae’r chwilio hefyd yn deall nodweddion morffolegol yr iaith Gymraeg, gan adnabod canlyniadau perthnasol hyd yn oed pan fo’r canlyniadau hynny (neu’r term chwilio) yn ffurf dreigledig, ffurf luosog neu’n ferf wedi’i rhedeg.