Sut mae ychwanegu geiriadur newydd i Cysgeir

Mae gwefan y Porth Termau hefyd yn darparu rhai geiriaduron fel ffeiliau er mwyn eu llwytho a’u hagor o fewn Cysgeir.

Mae’r cyfarwyddiadau isod yn ddilys ar gyfer fersiwn cartref Cysgliad (sy’n cynnwys Cysill a Cysgeir).

Os ydych chi’n defnyddio fersiwn rhwydwaith o Cysgliad, mae modd i chi ddilyn y cyfarwyddiadau isod hefyd a chadw’r geiriadur mewn cyfeiriadur ar eich cyfrifiadur personol chi. Fodd bynnag, os ydych chi am osod y geiriadur yn y cyfeiriadur canolog i’r holl rwydwaith gyda gweddill ffeiliau Cysgliad, bydd angen i chi ofyn i weinyddwr y system wneud hynny drosoch chi.

Cyfarwyddiadau

Cliciwch ar ddolen ‘llwytho i lawr’ y geiriadur dan sylw a chadwch mewn cyfeiriadur y mae gennych hawliau ysgrifennu iddo e.e. ‘LlyfrgelloeddDogfennauCysgeirGeiriaduron’ .  Dadsipiwch y ffeil zip er mwyn tynnu allan ddwy ffeil o’r un enw (ond gydag estyniadau gwahanol).

Agorwch Cysgeir ac yna dewiswch ‘Ymddangosiad’-> ‘Newid Geiriadur’ :

Yn y ffenestr newydd, cliciwch ar y botwm ‘Ychwanegu’:

Ewch i’r cyfeiriadur lle mae ffeiliau newydd Cysgeir, dewiswch y ffeil newydd a chliciwch ar ‘Agor’. Fe fydd y geiriadur newydd yn ymddangos yn y rhestr:

Cliciwch ar y botwm ‘Cau’.

Bydd cofnodion yn ymddangos o fewn chwiliadau: